PET(4)-01-12 p3a

 

P-04-352 Galwad i Achub Golchdy Stêm y Rhath

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i achub golchdy stêm y Rhath. Adeiladwyd y golchdy ym 1898 a’i gyfeiriad yw 33 Heol Malborough. Mae’r adeilad, sy’n dirnod unigryw, wedi’i leoli gerbron ardal gadwraeth Gerddi Melin y Rhath. Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn gwrthwynebu dymchwel yr adeilad hwn, cam a fyddai’n arwain at ddirywiad pellach yn nhreftadaeth bensaernïol a chymdeithasol Caerdydd. Dylid gwarchod golchdy stêm y Rhath er budd y gymdeithas gyfan, a dylai’r adeilad hwn fod yn amwynder y gall pawb ymfalchïo ynddo.

 

Prif ddeisebydd: Dave Green

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf:
10 Ionawr 2012

Nifer y deisebwyr: 145